Trevor Palmer

Mae Trevor yn entrepreneur anabl yn Ne Cymru, gyda dros 30 mlynedd o brofiad busnes. Yr hyn y mae Trevor yn angerddol yn ei gylch yw hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth ac annibyniaeth i bobl anabl. Mae Trevor yn ymgymryd â’i ail gyfnod fel Aelod Bwrdd ar gyfer Anabledd Cymru, yn ogystal â rolau ar Grŵp Mynediad Casnewydd, Pwyllgor Celfyddydau Casnewydd Fyw a Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Mae Trevor wedi gweithio ar ein hymchwil ar gyfer Cerdyn Mynediad Celfyddydau y DU a dau gam ein hymchwil Ehangu Ymgysylltiad.