Lyndy Cooke

Mae hi’n gynhyrchydd digwyddiadau enwog a hynod brofiadol, yn rhaglennydd, curadur ac ymgynghorydd rhyngwladol llawrydd ar gyfer sefydliadau celfyddydol a diwylliannol fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Cyngor Prydeinig, Cynghorau Celfyddydau yn y DU ac Iwerddon, Commonwealth Foundation, Lloyd’s Register Foundation, Gŵyl Lyfrau Queens Park, Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur yn India, Festival of Ideas, Caerefrog, Gŵyl Awduron a Darllenwyr Ubud yn Bali.

Mae Lyndy yn fwyaf adnabyddus am ei 20 mlynedd o fod yn Rheolwr Gyfarwyddwr Gŵyl y Gelli; gan fynd â’r cwmni o drosiant o £40K i tua £3.8M, a sefydlu 8 gŵyl lloeren ryngwladol ar draws 5 cyfandir.

Lyndy yw uwch reolwr prosiect Richie Turner Associates, yn ogystal ag arwain ar yr holl dasgau ymgynghoriaeth rheolaeth ariannol (mae hi wrth ei bodd â thaenlenni!) Yn ystod COVID-19 sefydlodd Lyndy fusnes pacponi, ond mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn rhedeg ei busnesau ymgynghori digwyddiadau ei hun – Hand Held Events – a gyd-sefydlodd yn 2017.