Jon Luxton
Cyd-ymchwilydd arweiniol, arweinydd economaidd-gymdeithasol ac awdur adroddiadau.
Mae Jon yn ymgyrchydd hawliau anabledd adnabyddus, yn berfformiwr ac yn gyd-gyfarwyddwr artistig ar gyfer ‘uhhuh dance’, yn aelod hirhoedlog ac yn gyn-gadeirydd Celfyddydau Anabledd Cymru, ac yn gyn-gyfarwyddwr y Cyngor Celfyddydau. Ers 2002, mae Jon wedi gweithio fel hyfforddwr, darlithydd, hwylusydd, awdur a dylunydd gwasanaethau. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys cyflwyno’r prosiect cyfan, gwaith cynghorydd llawrydd a chyflwyno hyfforddiant adeiladu gallu ar raddfa fawr mewn Amrywiaeth a Chydraddoldeb.
Ar hyn o bryd Jon yw cynghorydd arbenigol anabledd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Cyn y penodiad hwn roedd ei yrfa yn ymestyn dros 16 mlynedd o brofiad fel hyfforddwr cydraddoldeb / amrywiaeth / dylunydd cwrs pwrpasol yn gweithio yn y sector preifat a chyhoeddus ar gyfer sefydliadau fel Cyngor Celfyddydau Cymru, Awdurdodau Lleol, Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan Celfyddydau Chapter a Llywodraeth Cymru.
Er enghraifft, mae wedi cyd-ddylunio a darparu rhaglenni Darpariaeth Gwasanaeth Cynhwysol mawr ar gyfer adrannau datblygu economaidd y llywodraeth yng Nghymru a gyflwynwyd i dros 600 o bobl.
Mae Jon yn gweithio ar ein hymchwil Ehangu Ymgysylltiad Cam 2.