Gwen Lloyd Aubrey
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn uwch rolau gweinyddol a llywodraethu yn y sector Addysg yng Nghymru (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Prifysgol Caerdydd a Chymdeithas Ddysgedig Cymru), 10 mlynedd yn rhedeg ei busnes cyfieithu ei hun (Cywrain) a dros 8 mlynedd fel arolygydd lleyg i Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn), mae Gwen yn Gymraes gynhenid o Ogledd Cymru. Yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, mae Gwen yn darparu gwasanaeth cyfieithu a thrawsgrifio i nifer o sefydliadau a chwmnïau adnabyddus yng Nghymru a Lloegr.
Yn cael ei hadnabod gan ei ffrindiau fel ‘Merch y Mynydd’, mae Gwen yn hynod falch o’i hiaith Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth Gymreig, wedi ei magu ar fferm yng Ngogledd Cymru ar draws yr aber i bentref Eidalaidd hardd Portmeirion ar aelwyd gwbl Gymreig. I ymlacio, mae Gwen yn mwynhau treulio amser gyda’i ffrind gorau, Wilf, ei chi, (a’i phartner a’i merch) yn archwilio’r llu o lwybrau cerdded coetiroedd a mynyddoedd gwych sydd gan Gymru i’w cynnig.
Mae Gwen yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth personol, cyfeillgar, proffesiynol, dosbarth cyntaf, lle mae ansawdd yn flaenllaw yn ei busnes. Ei mantra yw - Hyd nes y byddwch yn deall eich cwsmeriaid, yn ddwfn ac yn wirioneddol, ni allwch eu gwasanaethu mewn gwirionedd.