Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen - Cymunedau Cymru

cefndir

Mae gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen (LIME) hanes balch o 76 mlynedd o ddod â chymunedau byd-eang at ei gilydd trwy gerddoriaeth, dawns a chreadigrwydd i hybu heddwch a dealltwriaeth. Mae’r Eisteddfod yn cael ei chydnabod fel un o wyliau mwyaf blaenllaw’r byd ac mae hyd yn oed wedi’i henwebu ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel. Dros 75 mlynedd mae wedi denu dros 400,000 o gystadleuwyr gan ddod â dros 140 o ddiwylliannau i Ddyffryn Dyfrdwy, eiconau diwylliannol gan gynnwys Dylan Thomas, y Fonesig Shirley Bassey a Luciano Pavarotti.

 

Mae LIME wedi ein comisiynu fel eu Prif Gynhyrchydd Ymgysylltu â’r Gymuned i weithio ar brosiect cydweithredol 15 mis (sy’n rhedeg tan fis Gorffennaf 2025) ac a ariennir gan raglen ‘Cysylltu a Ffynnu’ Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r prosiect yn adlewyrchu treftadaeth gyfoethog Eisteddfod Llangollen gan ymestyn yn ôl i arloesi unigryw’r sylfaenwyr ym 1947, ac mae’n cyd-fynd ag amcan y sefydliad o ddefnyddio’r Celfyddydau i ddod â gwahanol bobl, diwylliannau a chymunedau ynghyd mewn ysbryd o heddwch a chyfeillgarwch.

Crëwyd ‘Cymunedau Cymru’ i archwilio natur amlddiwylliannol ac amlieithog y Gymru fodern, ac i ddatgloi potensial creadigol y cymunedau hyn. Gan weithio gyda phartneriaid proffesiynol allweddol, ymarferwyr celfyddydol a 10 grŵp cymunedol ar draws Cymru, bydd y prosiect yn defnyddio adrodd straeon i ddod â phobl ynghyd, gan ddefnyddio cerddoriaeth, dawns, barddoniaeth a llenyddiaeth wedi’u cydblethu i greu mynegiant grymusol a chyfoethog o dreftadaeth ddiwylliannol.

 

Ein rôl yw adnabod a chefnogi cymunedau ethnig ac ieithyddol ledled Cymru er mwyn datblygu 3 phrosiect arddangos cymunedol yn arwain at Eisteddfod Llangollen yn 2024, a 7 prosiect arall yn arwain at y digwyddiad yn 2025. Y nod yw i LIME nid yn unig arddangos yr ystod ryngwladol orau o amrywiaeth greadigol o bob rhan o’r byd ond i wneud yr un peth ar gyfer yr ystod eang o gymunedau creadigol amrywiol sydd wedi’u lleoli ar draws Cymru.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn 2025, cysylltwch â ni.

Cyhoeddir manylion y cymunedau sy'n cymryd rhan yn 2024 gan LIME yn fuan.