Newid Diwylliant I Gwmnïau Celfyddydau Cenedlaethol Cymru

Cefndir

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC | Ffilm Cymru Wales | Llenyddiaeth Cymru | Dawns Genedlaethol Cymru | Theatr Genedlaethol Cymru | Canolfan Mileniwm Cymru | Opera Cenedlaethol Cymru

 

Mae Newid Diwylliant yn rhaglen newydd sydd â’r nod o drawsnewid y sefydliadau dan sylw yn sefydliadau sydd mewn sefyllfa well i ddenu a recriwtio pobl o’r Mwyafrif Byd-eang ac sy’n gallu darparu gweithleoedd cynhwysol a diwylliant sefydliadol. Mae Newid Diwylliant hefyd yn anelu at wneud sector celfyddydau Cymru yn fwy cynhwysol ac apelgar i bobl o’r mwyafrif byd-eang trwy gyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol. Daw mwyafrif y cyllid ar gyfer y rhaglen hon o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y rhaglen yn comisiynu ac yn cyflawni 4 llinyn gwaith allweddol:

  • Grwpiau Cyfeillion Beirniadol o blith pobl greadigol Mwyafrif Byd-eang ar ddechrau a chanol eu gyrfa
  • Rhaglen Arweinyddiaeth Newid Diwylliant ar gyfer yr holl gwmnïau celfyddydol cenedlaethol ynghyd â nifer o sefydliadau
    celfyddydol allweddol eraill o bob rhan o Gymru
  • Rhaglen Arweinyddiaeth ar gyfer pobl greadigol Mwyafrif Byd-eang yng nghyfnod cynnar a chanol eu gyrfa ar draws Cymru
  • Creu pecyn cymorth Adnoddau Dynol Gwrth-hiliaeth i bob sefydliad sy'n cymryd rhan i’w ddefnyddio.

 

Richie Turner Associates sy'n rheoli'r rhaglen gyffredinol ochr yn ochr â sefydliadau eraill a llawryddion sy'n cyflwyno gwahanol elfennau'r rhaglen.