Skip to content

Strategaeth Celfyddydau Powys

Sut i ddweud eich dweud?

Cefndir

Nid yw Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Sir Powys (CSP) yn darparu unrhyw weithgareddau celfyddydol yn uniongyrchol, ond ar hyn o bryd mae’n contractio gwasanaethau gan sefydliadau celfyddydol annibynnol amrywiol i gyflwyno darpariaeth gelfyddydol ar draws Powys. Mae’r sefydliadau celfyddydol hyn ar hyn o bryd yn darparu theatr, dawns, cerddoriaeth, celfyddydau gweledol a digidol, gwyliau celfyddydau perfformio a chrefftau.

Mae llawer mwy o artistiaid unigol a sefydliadau celfyddydol, ledled y Sir, sy’n cynnig amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau celfyddydol nad yw CSP yn eu hariannu’n uniongyrchol; maent yn cael eu hariannu gan amlaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal ag ymddiriedolaethau a sefydliadau cyhoeddus ac elusennol eraill. Mae llawer o sefydliadau celfyddydol eraill yn goroesi’n gyfan gwbl trwy gyfraniadau gwirfoddol neu eu gweithgareddau masnachol eu hunain.

Mae CSP wedi comisiynu Richie Turner Associates i gynnal adolygiad o’r gwasanaethau celfyddydol presennol ym Mhowys, a bydd yn gweithio gyda staff CSP, lleoliadau Powys, y sector celfyddydau ehangach, a’u cymunedau i gyd-ddatblygu strategaeth gelfyddydol a chynllun cyflawni newydd. Yn bwysicaf oll, mae CSP eisiau i’r strategaeth gelfyddydol newydd hon gael ei harwain gan, a’i chyd-gynhyrchu, gyda’r sector celfyddydau ym Mhowys, a chefnogi a hyrwyddo eu cynlluniau datblygu, gan ddangos sut mae’r rhain yn cyd-fynd â chynllun corfforaethol Cyngor Sir Powys ac yn cyflawni yn erbyn cynllun corfforaethol Cyngor Sir Powys sef i greu sir ‘Cryfach, Tecach, Gwyrddach’ a chyda’r amcanion hyn:

  • Byddwn yn gwella ymwybyddiaeth pobl o wasanaethau, a sut i gael gafael arnynt, fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus.
  • Byddwn yn cefnogi cyflogaeth gynaliadwy o ansawdd da, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddi, a dilyn achrediad cyflogwr cyflog byw go iawn.
  • Byddwn yn gweithio i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb i gefnogi lles pobl Powys.

Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad hwn, ar strategaeth gelfyddydol newydd, mewn sawl ffordd:

  • Mynychu un o’r cyfarfodydd ymgynghori:
    • Aberhonddu Dydd Mercher 19eg Ebrill: 2pm – 4pm Artistiaid a Sefydliadau Celfyddydol (register here) / 5.30pm – 7.30pm Cyfarfod agored i’r cyhoedd (register here)
    • Newtown Dydd Iau 20 Ebrill: 3.30pm – 5.30pm Agored i Artistiaid, Sefydliadau Celfyddydau a Chyhoeddus (register here)
    • Rhyader Dydd Gwener 21 Ebrill: 3pm – 5pm Agored i Artistiaid, Sefydliadau Celfyddydau a Chyhoeddus (register here)
  • Ewch i’n cyfarfodydd ar-lein Dydd Sadwrn 22 Ebrill: Agored i Artistiaid, Sefydliadau Celfyddydau a Chyhoeddus – 10 yb canol dydd (register here)
  • Gweler ein tudalen hygyrchedd ar gyfer sut i ymateb os ydych chi’n berson D/byddar neu anabl
  • Cwblhewch yr arolwg ar-lein sy’n cynnwys fersiwn BSL (agor mewn ffenestr newydd) – rydym wedi ymestyn y dyddiad cau i Hanner Nos 8fed Mai 2023
  • Rhannwch y wybodaeth ymgynghori hon gyda chydweithwyr, ffrindiau ac aelodau o’r teulu hefyd!